Gwirio eich bod wedi cofrestru i bleidleisio
Mae cofrestru i bleidleisio yn hawdd a chyflym. Gall helpu i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed ar ddiwrnodau etholiad.
Rhoi adborth mewn ymgynghoriad
Rhannwch eich barn mewn ymgynghoriadau lleol drwy wefan Cyngor Caerdydd.
Gallwch:
Adrodd am faterion i Gyngor Caerdydd
Rhowch wybod am broblem yn agos atoch chi ar wefan Cyngor Caerdydd. Dewiswch y tab ‘Adrodd’ i chwilio am yr hyn rydych chi eisiau adrodd amdano.
Cychwyn neu lofnodi deiseb
Gwnewch i’ch llais gyfrif yng Nghymru a San Steffan.
Gallwch:
Dod o hyd i’ch cynrychiolwyr
Chwilio a chysylltu â’ch cynrychiolydd am faterion sy’n bwysig i chi.
Gallwch:
Awgrymu pwnc i’w drafod
Holi cwestiwn
Gallwch ofyn cwestiwn cyhoeddus mewn cyfarfod llawn o’r cyngor. Cysylltwch â Gwasanaethau Democrataidd Cyngor Caerdydd i ofyn cwestiwn cyhoeddus.
E-bost: GwasanaethauDemocrataidd@caerdydd.gov.uk
Post:
Gwasanaethau Democrataidd Cyngor Caerdydd
Ystafell 286
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW
Gwylio cyfarfod o’r Cyngor
Gallwch wylio cyfarfod cyngor byw neu wedi’i archifo’n ddiweddar.
Bod yn aelod o Gyngor Ieuenctid Caerdydd
Eiriol dros newid cadarnhaol a hawliau plant ledled y ddinas.
Bod yn gynghorydd
Mae cynghorwyr yn gwneud penderfyniadau pwysig am faterion lleol a gwasanaethau cyhoeddus.
Ewch i wefan Bod yn Gynghorwr i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i fod yn gynghorydd.
Ysgolion yng Nghaerdydd
Dysgwch sut gall eich ysgol gymryd rhan gyda Democratiaeth Caerdydd.
Rhaglen Cenhadon Democratiaeth
Cofrestrwch eich ysgol gyda’n rhaglen i hyrwyddo democratiaeth a chymryd rhan mewn raffl am wobr!
Grymuswch eich disgyblion gyda gwybodaeth a sgiliau yn seiliedig ar ddemocratiaeth. Mae’r Rhaglen Cenhadon Democratiaeth yn agored i bob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghaerdydd.
Bod yn llywodraethwr ysgol
Llywodraethwyr ysgol yw’r gweithlu gwirfoddol pwysicaf ym maes addysg, ac maen nhw’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o wella addysg a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddyfodol plant a phobl ifanc.
Ewch i wefan EduCardiff i gael rhagor o wybodaeth am sut i fod yn llywodraethwr ysgol.