Rhaglen Cenhadon Democratiaeth

Mae’r Rhaglen Cenhadon Democratiaeth yn gyfle i rymuso’ch myfyrwyr gyda gwybodaeth a sgiliau sy’n seiliedig ar ddemocratiaeth. 

Mae’n agored i bob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghaerdydd.

Beth mae’r rhaglen yn ei gynnig? 

Gall eich ysgol enwebu cenhadon. Bydd y rhaglen yn rhoi mynediad iddynt at adnoddau a gwybodaeth am ein gwersi a’n gweithgareddau.  Nod y rhain yw cyflwyno democratiaeth a’i phrosesau i’ch ysgol, mewn ffordd sy’n addas i athrawon a disgyblion.

Dysgwch fwy am yr hyn y gall y rhaglen ei gynnig i’ch ysgol:

Gall disgyblion ymweld â Neuadd y Sir, lle byddant:

  • yn cael taith o gwmpas Siambr y Cyngor,
  • cymryd rhan mewn gweithgaredd ffug orsaf bleidleisio,
  • cymryd rhan mewn ffug gyfarfod cyngor gyda’r Arglwydd Faer,
  • cwrdd â chynghorwyr lleol, a
  • chael tystysgrif mynychu.

Gallwch wylio fideo am fynd ar daith o gwmpas Siambr y Cyngor.

Deialog ddigidol: Deialog agored gydag aelodau 

Mae deialog ddigidol yn weithgaredd ystafell ddosbarth sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion siarad â chynghorwyr yn eu cymuned.  Gall hyn helpu i feithrin eu dealltwriaeth o ddyletswyddau a chyfrifoldebau dinesig.

Nod y gweithgaredd yw helpu ysgolion i gyflawni diben ‘dinasyddion moesegol a gwybodus’ y cwricwlwm newydd i Gymru.

Cynnal eich etholiadau ysgol eich hun 

Gall y rhaglen roi profiad pleidleisio realistig i ddisgyblion, gan eu paratoi am y tro cyntaf yn pleidleisio. Byddwn yn darparu offer fel:

  • blychau pleidleisio, 
  • bythau pleidleisio, ac
  • arwyddion.

Pam cofrestru ar gyfer y
Rhaglen Cenhadon Democratiaeth?

Cofrestrwch i’r rhaglen i gymryd rhan mewn raffl am wobr.

Bydd pedair ysgol yn ennill £100 yr un i gefnogi eu hadnoddau.  Byddwn yn cyhoeddi’r enillwyr ar 16 Gorffennaf 2025

1

Codi ymwybyddiaeth:

Drwy enwebu Cenhadon Democratiaeth, bydd eich ysgol yn chwarae rhan hanfodol wrth eiriol dros hawliau democrataidd unigolion ifanc yng Nghymru.  

Gall eich llysgenhadon fod naill ai’n: 

  • ddisgyblion blwyddyn 9 a hŷn, neu’n   
  • athrawon.  

Bydd y rhaglen yn arfogi llysgenhadon gydag adnoddau a syniadau i gael disgyblion i gymryd rhan mewn gweithgareddau democrataidd. 

2

Cynyddu cyfranogiad:

Gallwch elwa o’n partneriaethau gyda:

Drwy sesiynau a thrafodaethau rhyngweithiol, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o ddemocratiaeth.

3

Hyfforddiant a datblygiad:

Rydym yn cynnig sesiynau hyfforddi i genhadon, er mwyn helpu i integreiddio addysg ddemocratiaeth yn eu hysgolion.  Gallwch ddysgu arferion gorau, rhannu syniadau, a gweithio gyda chyd-genhadon i feithrin sgiliau a gwybodaeth, i gael effaith ehangach. 

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â GwasanaethauEtholiadol@caerdydd.gov.uk