Cofrestru i bleidleisio
Dim ond unwaith mae angen i chi gofrestru i bleidleisio – nid ar gyfer pob etholiad.
Gall bod ar y gofrestr etholiadol hefyd gynyddu eich sgôr credyd.
Bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio eto os ydych wedi newid eich:
- enw,
- cyfeiriad, neu
- genedligrwydd.
Pleidleisio
Bydd angen ID â llun i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ar gyfer etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ac etholiadau Seneddol y DU. Weithiau gelwir etholiadau Senedd y DU hefyd yn ‘etholiadau cyffredinol’.
Yng Nghymru, mae gwahanol bobl yn gymwys i bleidleisio mewn etholiadau gwahanol.
symud i Gaerdydd neu o fewn Caerdydd
Os ydych chi’n symud i Gaerdydd neu o fewn iddi, mae angen i chi gofrestru i bleidleisio yn y cyfeiriad hwnnw.
Hyd yn oed os gwnaethoch gofrestru yn eich hen gyfeiriad yng Nghaerdydd, bydd angen i chi gofrestru eto yn eich cyfeiriad presennol.
Er eich bod yn byw yng Nghaerdydd, efallai na fyddwch yn gymwys ar gyfer pob etholiad.
myfyriwr prifysgol
Os ydych wedi symud i Gaerdydd ar gyfer y brifysgol, gallwch gofrestru i bleidleisio o’ch cyfeiriad yng Nghaerdydd.
Gan mai dyma yw eich cyfeiriad prifysgol, gallwch gael eich cofrestru yma ac yn eich cyfeiriad cartref.
Dim ond unwaith y gallwch bleidleisio mewn etholiad.
gwladolyn tramor cymwys
Fel dinesydd tramor sy’n byw yn gyfreithlon yng Nghymru, gallwch bleidleisio mewn Etholiadau Llywodraeth Leol a’r Senedd os ydych dros 16 oed. Y Senedd yw Senedd Cymru.
o dan 18 oed
Yng Nghymru, gall pobl ifanc 16 oed neu hŷn bleidleisio mewn etholiadau lleol a’r Senedd. Y Senedd yw Senedd Cymru.
Gall pobl ifanc gofrestru i bleidleisio o 14 oed ymlaen.
Pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
Gwyliwch fideos gan gynghorau yn Ne Cymru am bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.
Pobl ag anableddau dysgu
Dysgwch am yr help sydd ar gael i bobl ag anableddau dysgu mewn gorsafoedd pleidleisio.
Gallwch hefyd weld canllawiau hawdd eu deall ar wefan GOV.UK ar:
Help i bleidleiswyr anabl mewn gorsafoedd pleidleisio
Gweld pa help y gallwch ei gael pan fyddwch yn mynd i bleidleisio. Gweld gwahanol fathau o offer cynorthwyol sydd ar gael i chi eu defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio.
Gallwch hefyd wylio’r fideo am help i bleidleiswyr anabl a dehongli Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Pleidleisio am y tro cyntaf
Gwybodaeth am yr help sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio.
Gall hyn eich helpu i ymgyfarwyddo â’r broses.