Pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth
Mae gorsafoedd pleidleisio yn cynnig cefnogaeth i bleidleiswyr ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.
Gallwch ofyn am help gan staff sydd wedi’u hyfforddi i’ch cynorthwyo. Gallwch hefyd ddod â rhywun gyda chi i helpu.
Gallwch gael gwybod mwy ynghylch sut i bleidleisio mewn person ar wefan My Vote My Voice.
Pobl ag anableddau corfforol
Rhaid i bob gorsaf bleidleisio yn y DU fodloni safonau hygyrchedd i sicrhau bod pobl ag anabledd corfforol yn gallu pleidleisio mewn person. Mae gan y rhan fwyaf o orsafoedd pleidleisio nodweddion hygyrchedd fel:
- rampiau
- drysau llydan,
- dyfeisiau pleidleisio botymog, a
- deunyddiau etholiadol print bras.
Os na allwch fynd i orsaf bleidleisio
Os nad ydych yn gallu mynd i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy.
Pleidleisio drwy’r post
Gallwch wneud cais i gael pleidlais bost wedi’i hanfon i’ch cartref.
Mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio cyn i chi allu gwneud cais am bleidlais bost.
Gallwch gael gwybod mwy am bleidleisio drwy’r post a sut i wneud cais ar wefan Cyngor Caerdydd.
Pleidleisio drwy ddirprwy
Gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddynt bleidleisio ar eich rhan. Pleidlais drwy ddirprwy yw hyn.
Mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio cyn i chi allu gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy.
Gallwch gael gwybod mwy am bleidleisio drwy ddirprwy a sut i wneud cais ar wefan Cyngor Caerdydd.
Gallwch hefyd:
- gael gwybod mwy am ddarpariaethau i wneud pleidleisio’n hygyrch yng Nghaerdydd,
- Darllen mwy am hygyrchedd etholiadau ar wefan y Comisiwn Etholiadol, neu
- ddysgu mwy am bleidleisio ar ran pobl ag anableddau dysgu, awtistiaeth a chyflyrau iechyd meddwl ar wefan Mirus.