Deall democratiaeth

Deall democratiaeth

Sut mae democratiaeth yn gweithio?

Mewn etholiadau, rydym yn pleidleisio dros bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr.  Mae’r rhain yn wahanol bobl â syniadau am sut y dylid rhedeg y wlad. Gelwir y bobl hyn yn wleidyddion.

Mae gwleidyddion yn gosod cynlluniau ar gyfer pethau sy’n effeithio arnom ni fel cymdeithas. Maen nhw’n gwneud penderfyniadau ar bethau fel:

  • ysgolion,
  • ysbytai, a’r
  • amgylchedd.

Gallwn bleidleisio dros y blaid neu’r gwleidydd sydd â’r syniadau gorau yn ein barn ni.

Pam cael democratiaeth?

Mae’n hyrwyddo rhyddid mynegiant

Mae democratiaeth yn rhoi’r hawl i ni ddweud beth rydyn ni’n ei feddwl am rai pethau, cyn belled nad yw hyn yn niweidiol i eraill.  Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i leisio eu barn.

Mae’n cynnal cyfraith a threfn

Mae’r gwleidyddion rydym yn pleidleisio drostynt, neu’n eu hethol, yn creu ac yn diwygio’r cyfreithiau yn ein democratiaeth. Mae cyfreithiau wedi’u cynllunio i’n cadw ni’n ddiogel.

Mae’n helpu i sicrhau cydraddoldeb

Mae democratiaeth yn cynnal hawliau pobl. Mae hyn yn helpu i hyrwyddo triniaeth deg a chyfle i bawb.

Mathau o lywodraethau

Mae’r Deyrnas Unedig yn cael ei rhedeg gan wahanol fathau o lywodraethau. Maen nhw’n gwneud penderfyniadau pwysig ar faterion cyhoeddus ledled y DU.

Mae’r Llywodraeth Ganolog, neu Lywodraeth y DU, wedi’i lleoli yn San Steffan.

Cael gwybod mwy ynghylch sut mae’r Llywodraeth Ganolog yn gweithio.

Mae llywodraethau datganoledig yn cael eu cynnal yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cael gwybod mwy ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru’n gweithio.

Craffu a gwneud penderfyniadau

Mae gwleidyddion yn mynychu cynadleddau ffurfiol rheolaidd i sicrhau bod ein llywodraethau yn gwneud penderfyniadau priodol a theg.  Gelwir y cynadleddau hyn yn seneddau.

Y Senedd yw Senedd Cymru.

Gallwch:

Gallwch hefyd weld sut i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.