Datganiad hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd yn berthnasol i wefan Porth Democratiaeth Leol Caerdydd.
Cynhelir y wefan hon gan Gyngor Caerdydd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais,
- chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin,
- llywio’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd, a
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver).
Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Cysylltwch â ni os ydych:
- yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon,
- yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, neu
- os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol.
E-bost: gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan yn cyd-fynd yn llwyr â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1.
Beth rydyn ni’n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn rhoi cymorth a hyfforddiant i’r rhai sy’n gweinyddu’r wefan, er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cadw wrth ddiweddaru’r wefan. Byddwn yn adolygu’r wefan o bryd i’w gilydd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 30 Medi 2024.
Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 30 Medi 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 30 Medi 2024 gan Silktide gyda gwiriadau llaw ychwanegol a gyflawnir gan ein tîm gwefan.
Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 30 Medi 2024.