Rydyn ni’n cynnig cyfle i ysgolion cynradd ymweld â Neuadd y Sir bob blwyddyn. Mae’r ymweliad 2 awr hwn yn cynnwys gweithgareddau diddorol sy’n helpu disgyblion i archwilio democratiaeth mewn ffordd ystyrlon, gan gefnogi eu datblygiad fel dinasyddion moesegol, gwybodus.
Beth i’w ddisgwyl
Yn ystod yr ymweliad hwn, gall eich disgyblion brofi:
Sesiwn friffio ar ddemocratiaeth leol
Mae’r sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’r broses ddemocrataidd yng Nghaerdydd. Gall disgyblion:
- ddysgu am rolau a chyfrifoldebau cynghorydd, a
- chwrdd ag aelod etholedig o’r Cyngor.
Arddangosiad rhyngweithiol o etholiad
Gall disgyblion brofi senarios democrataidd, fel bwrw pleidlais mewn gorsaf bleidleisio ffug.
Taith o amgylch siambr y Cyngor
Gall disgyblion ddysgu’r pethau sylfaenol ynghylch ble, sut a pham mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Mae hyn yn cynnwys dysgu am:
- y prosesau gwneud penderfyniadau o fewn y Cyngor,
- sut mae pleidleisio yn digwydd yn y siambr, a
- sut mae’r meicroffonau a’r systemau arddangos yn gweithio.
Sesiwn wybodaeth gyda’r Arglwydd Faer
Gall disgyblion gwrdd â’r Arglwydd Faer a dysgu am:
- beth yw Maer a’r hyn mae’n ei wneud, ac
- arwyddocâd regalia’r Arglwydd Faer.
Cyflwyno tystysgrifau
Byddwn ni’n cyflwyno tystysgrif i’ch disgyblion gan yr Arglwydd Faer, neu’r Dirprwy Arglwydd Faer, i ddweud eu bod nhw wedi mynychu a dysgu am lawer o bethau sy’n ymwneud â democratiaeth leol. Byddwn ni hefyd yn cynnig lluniaeth.
Cymrwch ran!
Cofrestrwch eich ysgol gyda’r Rhaglen Cenhadon Democratiaeth: