Mae’r Rhaglen Cenhadon Democratiaeth yn gyfle i rymuso’ch myfyrwyr gyda gwybodaeth a sgiliau sy’n seiliedig ar ddemocratiaeth.
Mae’n agored i bob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghaerdydd.
Beth mae’r rhaglen yn ei gynnig?
Gall eich ysgol enwebu cenhadon. Bydd y rhaglen yn rhoi mynediad iddynt at adnoddau a gwybodaeth am ein gwersi a’n gweithgareddau. Nod y rhain yw cyflwyno democratiaeth a’i phrosesau i’ch ysgol, mewn ffordd sy’n addas i athrawon a disgyblion.
Dysgwch fwy am yr hyn y gall y rhaglen ei gynnig i’ch ysgol:
Ymweld â Neuadd y Sir
Gall disgyblion ymweld â Neuadd y Sir, lle byddant:
- yn cael taith o gwmpas Siambr y Cyngor,
- cymryd rhan mewn gweithgaredd ffug orsaf bleidleisio,
- cymryd rhan mewn ffug gyfarfod cyngor gyda’r Arglwydd Faer,
- cwrdd â chynghorwyr lleol, a
- chael tystysgrif mynychu.
Gallwch wylio fideo am fynd ar daith o gwmpas Siambr y Cyngor.
Deialog ddigidol: Deialog agored gydag aelodau
Mae deialog ddigidol yn weithgaredd ystafell ddosbarth sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion siarad â chynghorwyr yn eu cymuned. Gall hyn helpu i feithrin eu dealltwriaeth o ddyletswyddau a chyfrifoldebau dinesig.
Nod y gweithgaredd yw helpu ysgolion i gyflawni diben ‘dinasyddion moesegol a gwybodus’ y cwricwlwm newydd i Gymru.
Cynnal eich etholiadau ysgol eich hun
Gall y rhaglen roi profiad pleidleisio realistig i ddisgyblion, gan eu paratoi am y tro cyntaf yn pleidleisio. Byddwn yn darparu offer fel:
- blychau pleidleisio,
- bythau pleidleisio, ac
- arwyddion.
Pam cofrestru ar gyfer y
Rhaglen Cenhadon Democratiaeth?
Cofrestrwch i’r rhaglen i gymryd rhan mewn raffl am wobr.
Bydd pedair ysgol yn ennill £100 yr un i gefnogi eu hadnoddau. Byddwn yn cyhoeddi’r enillwyr ar 16 Gorffennaf 2025
1
Codi ymwybyddiaeth:
Drwy enwebu Cenhadon Democratiaeth, bydd eich ysgol yn chwarae rhan hanfodol wrth eiriol dros hawliau democrataidd unigolion ifanc yng Nghymru.
Gall eich llysgenhadon fod naill ai’n:
- ddisgyblion blwyddyn 9 a hŷn, neu’n
- athrawon.
Bydd y rhaglen yn arfogi llysgenhadon gydag adnoddau a syniadau i gael disgyblion i gymryd rhan mewn gweithgareddau democrataidd.
2
Cynyddu cyfranogiad:
Gallwch elwa o’n partneriaethau gyda:
- Thîm Cwricwlwm a Gwasanaethau Democrataidd Cyngor Caerdydd,
- Y Comisiwn Etholiadol, a
- The Politics Project.
Drwy sesiynau a thrafodaethau rhyngweithiol, bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o ddemocratiaeth.
3
Hyfforddiant a datblygiad:
Rydym yn cynnig sesiynau hyfforddi i genhadon, er mwyn helpu i integreiddio addysg ddemocratiaeth yn eu hysgolion. Gallwch ddysgu arferion gorau, rhannu syniadau, a gweithio gyda chyd-genhadon i feithrin sgiliau a gwybodaeth, i gael effaith ehangach.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â GwasanaethauEtholiadol@caerdydd.gov.uk