Sut mae democratiaeth yn gweithio?
Mewn etholiadau, rydym yn pleidleisio dros bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr. Mae’r rhain yn wahanol bobl â syniadau am sut y dylid rhedeg y wlad. Gelwir y bobl hyn yn wleidyddion.
Mae gwleidyddion yn gosod cynlluniau ar gyfer pethau sy’n effeithio arnom ni fel cymdeithas. Maen nhw’n gwneud penderfyniadau ar bethau fel:
- ysgolion,
- ysbytai, a’r
- amgylchedd.
Gallwn bleidleisio dros y blaid neu’r gwleidydd sydd â’r syniadau gorau yn ein barn ni.
Pam cael democratiaeth?
Mae’n hyrwyddo rhyddid mynegiant
Mae democratiaeth yn rhoi’r hawl i ni ddweud beth rydyn ni’n ei feddwl am rai pethau, cyn belled nad yw hyn yn niweidiol i eraill. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i leisio eu barn.
Mae’n cynnal cyfraith a threfn
Mae’r gwleidyddion rydym yn pleidleisio drostynt, neu’n eu hethol, yn creu ac yn diwygio’r cyfreithiau yn ein democratiaeth. Mae cyfreithiau wedi’u cynllunio i’n cadw ni’n ddiogel.
Mae’n helpu i sicrhau cydraddoldeb
Mae democratiaeth yn cynnal hawliau pobl. Mae hyn yn helpu i hyrwyddo triniaeth deg a chyfle i bawb.
Mathau o lywodraethau
Mae’r Deyrnas Unedig yn cael ei rhedeg gan wahanol fathau o lywodraethau. Maen nhw’n gwneud penderfyniadau pwysig ar faterion cyhoeddus ledled y DU.
Llywodraeth Ganolog
Mae’r Llywodraeth Ganolog, neu Lywodraeth y DU, wedi’i lleoli yn San Steffan.
Cael gwybod mwy ynghylch sut mae’r Llywodraeth Ganolog yn gweithio.
Llywodraethau datganoledig
Mae llywodraethau datganoledig yn cael eu cynnal yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Cael gwybod mwy ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru’n gweithio.
Awdurdodau lleol
Mae’r Deyrnas Unedig yn cynnwys awdurdodau lleol neu gynghorau hefyd. Gallwch:
Cynghorau cymuned
Mae awdurdodau lleol hefyd yn cynnwys cynghorau cymuned llai. Gallwch:
Craffu a gwneud penderfyniadau
Mae gwleidyddion yn mynychu cynadleddau ffurfiol rheolaidd i sicrhau bod ein llywodraethau yn gwneud penderfyniadau priodol a theg. Gelwir y cynadleddau hyn yn seneddau.
Y Senedd yw Senedd Cymru.
Gallwch:
Gallwch hefyd weld sut i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.
Pwy yw eich cynrychiolwyr?
Dysgwch pwy sy’n eich cynrychioli chi’n lleol, yng Nghymru ac yn San Steffan.
Gallwch: