Democratiaeth i bawb

Pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth

Mae gorsafoedd pleidleisio yn cynnig cefnogaeth i bleidleiswyr ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.

Gallwch ofyn am help gan staff sydd wedi’u hyfforddi i’ch cynorthwyo. Gallwch hefyd ddod â rhywun gyda chi i helpu.

Gallwch gael gwybod mwy ynghylch sut i bleidleisio mewn person ar wefan My Vote My Voice.

Pobl ag anableddau corfforol

Rhaid i bob gorsaf bleidleisio yn y DU fodloni safonau hygyrchedd i sicrhau bod pobl ag anabledd corfforol yn gallu pleidleisio mewn person. Mae gan y rhan fwyaf o orsafoedd pleidleisio nodweddion hygyrchedd fel:

  • rampiau
  • drysau llydan,
  • dyfeisiau pleidleisio botymog, a 
  • deunyddiau etholiadol print bras.

Os na allwch fynd i orsaf bleidleisio

Os nad ydych yn gallu mynd i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy.

Pleidleisio drwy’r post

Gallwch wneud cais i gael pleidlais bost wedi’i hanfon i’ch cartref.

Mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio cyn i chi allu gwneud cais am bleidlais bost.

Gallwch gael gwybod mwy am bleidleisio drwy’r post a sut i wneud cais ar wefan Cyngor Caerdydd.


Pleidleisio drwy ddirprwy

Gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddynt bleidleisio ar eich rhan.  Pleidlais drwy ddirprwy yw hyn.

Mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio cyn i chi allu gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy.

Gallwch gael gwybod mwy am bleidleisio drwy ddirprwy a sut i wneud cais ar wefan Cyngor Caerdydd.