Ymweliad â Neuadd y Sir 

,

Rydyn ni’n cynnig cyfle i ysgolion cynradd ymweld â Neuadd y Sir bob blwyddyn. Mae’r ymweliad 2 awr hwn yn cynnwys gweithgareddau diddorol sy’n helpu disgyblion i archwilio democratiaeth mewn ffordd ystyrlon, gan gefnogi eu datblygiad fel dinasyddion moesegol, gwybodus.

Yn ystod yr ymweliad hwn, gall eich disgyblion brofi:

Sesiwn friffio ar ddemocratiaeth leol

Mae’r sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’r broses ddemocrataidd yng Nghaerdydd. Gall disgyblion:

  • ddysgu am rolau a chyfrifoldebau cynghorydd, a
  • chwrdd ag aelod etholedig o’r Cyngor.

Arddangosiad rhyngweithiol o etholiad

Gall disgyblion brofi senarios democrataidd, fel bwrw pleidlais mewn gorsaf bleidleisio ffug.

Taith o amgylch siambr y Cyngor

Gall disgyblion ddysgu’r pethau sylfaenol ynghylch ble, sut a pham mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Mae hyn yn cynnwys dysgu am:

  • y prosesau gwneud penderfyniadau o fewn y Cyngor,
  • sut mae pleidleisio yn digwydd yn y siambr, a
  • sut mae’r meicroffonau a’r systemau arddangos yn gweithio.

Sesiwn wybodaeth gyda’r Arglwydd Faer

Gall disgyblion gwrdd â’r Arglwydd Faer a dysgu am:

  • beth yw Maer a’r hyn mae’n ei wneud, ac
  • arwyddocâd regalia’r Arglwydd Faer.

Cyflwyno tystysgrifau

Byddwn ni’n cyflwyno tystysgrif i’ch disgyblion gan yr Arglwydd Faer, neu’r Dirprwy Arglwydd Faer, i ddweud eu bod nhw wedi mynychu a dysgu am lawer o bethau sy’n ymwneud â democratiaeth leol. Byddwn ni hefyd yn cynnig lluniaeth.

Cofrestrwch eich ysgol gyda’r Rhaglen Cenhadon Democratiaeth: