Ymweliad â Neuadd y Sir a’r Senedd

,

Mewn partneriaeth â Thîm Addysg y Senedd, rydyn ni’n cynnig cyfle i ysgolion uwchradd ymweld â Neuadd y Sir a’r Senedd am ddiwrnod.

Mae’r daith hon yn rhoi profiadau dysgu dilys sy’n cynorthwyo pobl ifanc i wneud penderfyniadau. Trwy ryngweithio ystyrlon ag arweinwyr etholedig, mae disgyblion yn archwilio eu rolau fel dinasyddion moesegol, gwybodus.

Mae’r diwrnod yn meithrin cyfrifoldeb, empathi a chreadigrwydd, gan rymuso disgyblion i ddod yn gyfranwyr gweithredol i gymdeithas.

Yn ystod yr ymweliad, gall disgyblion brofi:

Sesiwn friffio ar strwythur y llywodraeth

Bydd disgyblion yn cael trosolwg cyffredinol o’r gwahanol haenau o’r llywodraeth a’r pwerau sydd ganddyn nhw.

Gweithdy gydag aelod cabinet

Bydd y sesiwn hon yn annog disgyblion i archwilio’r dylanwad a’r cyfrifoldebau sy’n dod gyda chael llais.

Cyfarfod gyda’r Arglwydd Faer

Gall disgyblion:

  • gwrdd â’r Arglwydd Faer,
  • eistedd yn siambr y Cyngor, a
  • chymryd rhan mewn cyfarfod Cyngor ffug lle maen nhw’n cadeirio yndd

Arddangosiad rhyngweithiol o etholiad

Gall disgyblion ddysgu am y broses bleidleisio mewn senario gorsaf bleidleisio ffug, drwy:

  • efelychu rolau a chyfrifoldebau gwahanol aelodau o staff, ac
  • ymarfer gwneud penderfyniad wrth fwrw eu pleidlais eu hunain.

Sesiwn friffio ar y Senedd

Cyflwyniad i:

  • beth mae’r Senedd yn ei wneud,
  • pam ei bod yn bwysig, a
  • beth yw ei rolau a’i chyfrifoldebau.

Taith o amgylch y Senedd

Taith dywys o amgylch yr adeilad, sy’n cynnig golwg y tu ôl i’r llenni ar ble mae penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud.

Dadl ffug

Gall disgyblion gymryd rhan mewn dadl ffug yn y Senedd, gan ddysgu a chymhwyso sgiliau gwneud penderfyniadau mewn lleoliad seneddol realistig.

Cofrestrwch eich ysgol gyda’r Rhaglen Cenhadon Democratiaeth: