Mae’r gweithdy, gydag aelod etholedig o’r Cyngor hwn yn cynnig mewnwelediadau i ddisgyblion i lywodraethu lleol, i helpu i sbarduno eu diddordebau mewn gwleidyddiaeth. Nod hyn yw:
- Grymuso ac ysgogi disgyblion i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
- Ysbrydoli dealltwriaeth ddyfnach o wleidyddiaeth ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
- Cynyddu ymwybyddiaeth o’r rôl mae cynghorwyr lleol yn ei chwarae wrth lunio cymunedau a gwneud polisïau.
Mae’r gweithdy hwn yn cael ei arwain gan Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd a Thîm Cydlyniant Cymunedol Caerdydd, gyda chymorth aelod etholedig o’r Cyngor.
Beth i’w ddysgwyl
Mae’n dechrau gyda gweithgaredd ‘torri iâ’ i helpu disgyblion i ddechrau meddwl am eu cymunedau. Ar ôl hyn, gall eich disgyblion gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn:
Gweithgaredd mapio cymunedol
Gall disgyblion archwilio a thynnu sylw at faterion allweddol o amgylch eu hardal leol, gan ddod o hyd i ffyrdd o wneud gwahaniaeth.
Cyflwyno syniadau i gynghorydd
Bydd cynghorydd yn gwrando ac yn ymateb i syniadau disgyblion, gan roi adborth a chynnal trafodaeth ar faterion a godwyd.
Sesiwn holi ac ateb cynghorydd
Cyfle i ddisgyblion ofyn cwestiynau i gynghorydd ar faterion ehangach eraill.
Gwerthusiad
I orffen y gweithdy, byddwn ni’n trafod yr hyn mae’r disgyblion wedi’i ennill o’r profiad ac yn croesawu eu hadborth.
Cymrwch ran!
Cofrestrwch eich ysgol gyda’r Rhaglen Cenhadon Democratiaeth: