Nod y gweithdy hwn ynghylch deisebau yw helpu disgyblion i archwilio’r pŵer sy’n dod gyda’u llais.
Beth i’w ddisgwyl
Gall disgyblion ddysgu am:
- beth yw deisebu,
- yr hyn mae’n gallu ei gyflawni,
- pam ei fod yn bwysig, a
- materion y gallan nhw ddeisebu yn eu cylch.
Mae’r gweithdy hwn yn cael ei arwain gan Dîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd. Byddwn ni hefyd yn gwahodd aelodau etholedig o’r Senedd i fynychu’r sesiwn.
Cymrwch ran!
Cofrestrwch eich ysgol gyda’r Rhaglen Cenhadon Democratiaeth: