Rhaglen Cenhadon Democratiaeth
Tudalen Aelodau
Cenhadon Democratiaeth – croeso i’ch siop un stop ar gyfer:
- Prosiectau unigryw a gweithgareddau ymgysylltu â democratiaid
- Adnoddau
- Dolenni defnyddiol a digwyddiadau

Cyfloeedd Unigryw: 2025-2026
Rydym yn falch iawn o gynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i’ch disgyblion gymryd rhan mewn profiadau dysgu democrataidd cyfoethogi y flwyddyn academaidd hon.
Sylwer: din ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael ac fe gânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Er mwyn sicrhau’r slotiau o’ch dewis chi, rydym yn argymell archebu’n
Siambr Neuadd y Sir a’r Senedd Taith Undydd (Ysgolion Uwchradd)
Yn Neuadd y Sir bydd myfyrwyr yn cwrdd â’r Arglwydd Faer a chynghorwyr lleol wrth ddarganfod mwy am y broses ddemocrataidd a’r hyn sy’n digwydd mewn gorsaf bleidleisio. Ar ochr draw’r Bae i’r Senedd, bydd myfyrwyr yn cael profiad dinesig bythgofiadwy sy’n gwella dealltwriaeth o’r Senedd.
Uchafswm o 20 disgybl i bob ysgol
Ymweliadau â Siambr Neuadd y Sir (Ysgolion Cynradd)
Gwyliwch y clip byr hwn i gael cipolwg ar yr hyn y gall eich disgyblion edrych ymlaen ato wrth archebu ymweliad â Neuadd y Sir. Mae’r ymweliad hwn yn berffaith ar gyfer eich Senedd Ysgol!
Uchafswm o 20 disgybl i bob ysgol

Gweithdy yn yr ysgol: Arweinyddiaeth yn yr ardal leol (ysgolion uwchradd)
Cynhelir gan Dîm Ieuenctid Caerdydd a Thîm Cydlyniant Cymunedol Caerdydd. Bydd aelod etholedig o’r Cyngor yn dod i’r gweithdy hwn i helpu disgyblion i archwilio arweinyddiaeth a ddelir gan aelodau etholedig a thrafod mentrau lleol sy’n bwysig iddyn nhw.
Uchafswm o 15 disgybl fesul gweithdy

Gweithdy yn yr ysgol: Senedd Cymru
Beth am drefnu i dîm addysg y Senedd ymweld â’ch ysgol? Gydag etholiadau’r Senedd yn prysur agosáu, dyma’r amser perffaith i helpu eich dysgwyr i archwilio’r pwerau sydd gan y Senedd a’r effaith ar eu bywydau.
Gallwch ddewis sesiynau wedi’u gosod ymlaen llaw neu ofyn am siarad â swyddog addysg i deilwra’ch gweithdy i anghenion eich dysgwyr!
Adnoddau:
Set o 3 gwers, yn archwilio’r cysyniad: ‘Mae ein pleidleisiau’n effeithio ar bwy sydd mewn grym, ac mae pwy sydd mewn grym yn effeithio arnom ni’. Rydym wedi cydweithio â’r
Comisiwn Etholiadol ac Addewid Caerdydd i greu’r gwersi hyn sy’n addas argyfer dysgwyr yng Nghaerdydd yn benodol.
Yr Hawl i Bleidleisio
Archwiliwch enghreifftiau
gwirioneddol o ddigwyddiadau hanesyddol a’r byd modern lle bu pobl yn brwydro dros eu hawl i bleidleisio/i’w llais gael ei glywed. Cyfle i gynnal sgyrsiau i helpu dysgwyr i ddeall pam mae cael pleidlais yn bwysig i ddiogelu hawliau dynol, y pŵer sydd gan eu pleidlais wrth helpu i roi pobl mewn swyddi pwerus, a fydd wedyn yn llunio deddfau fydd yn effeithio ar bawb.
Pwy sydd â phŵer?
Archwiliwch y pwerau amrywiol sydd gan Gyngor Caerdydd, Senedd Cymru a Senedd y DU. Mae’n cynnwys ymarferion i ddysgwyr fyfyrio ar yr effeithiau y mae’r pwerau hyn yn eu cael ar eu bywyd o ddydd i ddydd
Difaterwch Pleidleiswyr
Archwiliwch Ddifaterwch
Pleidleiswyr ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Yn cynnwys ymarferion i gael eich dysgwyr i feddwl am ffyrdd o fynd i’r afael â hyn.
Gall y wers hon fod yn sesiwn dda ar gyfer taflu syniadau i’ch cenhadon feddwl am eu hymgyrch eu hunain i ennyn diddordeb eu cyfoedion mewn democratiaeth.



