Rhaglen Cenhadon Democratiaeth: Tudalen aelodau
Cenhadon Democratiaeth – croeso i’ch siop un stop ar gyfer:
- deunyddiau defnyddiol,
- gweithgareddau ar gyfer disgyblion, a
- gwybodaeth ynghylch hyfforddiant.

Negeseuon atgoffa
Diweddariadau a negeseuon atgoffa ar gyfer dyddiadau pwysig.
Gweithgareddau
Gweld syniadau ar gyfer gweithgareddau yn eich ysgol.
Byddwn yn cysylltu â’r aelodau gyda manylion ynghylch sut i drefnu gweithgareddau.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk
Trefnu ymweliad â Neuadd y Sir
Gall disgyblion ymweld â Neuadd y Sir, lle byddant:
- yn cael taith o gwmpas Siambr y Cyngor,
- cymryd rhan mewn gweithgaredd ffug orsaf bleidleisio,
- cymryd rhan mewn ffug gyfarfod cyngor gyda’r Arglwydd Faer,
- cwrdd â chynghorwyr lleol, a
- chael tystysgrif mynychu.
Gallwch wylio fideo am fynd ar daith o gwmpas Siambr y Cyngor.
Deialog ddigidol: Deialog agored gydag aelodau
Mae deialog ddigidol yn weithgaredd ystafell ddosbarth sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion siarad â chynghorwyr yn eu cymuned. Gall hyn helpu i feithrin eu dealltwriaeth o ddyletswyddau a chyfrifoldebau dinesig.
Nod y gweithgaredd yw helpu ysgolion i gyflawni diben ‘dinasyddion moesegol a gwybodus’ y cwricwlwm newydd i Gymru.
Cynnal eich etholiadau ysgol eich hun
Gall y rhaglen roi profiad pleidleisio realistig i ddisgyblion, gan eu paratoi am y tro cyntaf yn pleidleisio. Byddwn yn darparu offer fel:
- blychau pleidleisio,
- bythau pleidleisio, ac
- arwyddion.
Cymryd rhan mewn hyfforddiant
Rydym yn cynnig sesiynau hyfforddi i’ch helpu i integreiddio addysg ddemocratiaeth yn eich ysgol yn effeithiol.
Mae’r sesiynau hyfforddi yn rhoi cyfle i chi:
- gydweithio ar brosiectau gyda chenhadon eraill,
- dysgu arferion gorau, a
- rhannu a chymharu syniadau.